Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Trafod y Sesiwn dystiolaeth o gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2015 - Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i:
3 Deisebau newydd
3.1 P-04-619 LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER TRYDYDD PARTÏON
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.2 P-04-618 Diogelu Gwasanaethau Bancio mewn Cymunedau Hawdd eu Targedu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ofyn i'r ddeiseb gael ei hystyried fel rhan o waith y grŵp sy'n cael ei sefydlu i edrych ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol; a
· gofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Prif Weinidog.
3.3 P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd eto i ofyn am eu barn ar lythyr y Gweinidog.
3.4 P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb yn ffurfiol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'w gymryd i ystyriaeth wrth lunio eu hadroddiad cam 1 ar y Bil Lefelau Staffio Nyrsio Diogel (Cymru) a gofyn iddynt ein hysbysu o'r cynnydd a phan fyddant yn cau'r ddeiseb.
3.5 P-04-627 Gwell Gwasanaethau Trên i Gymudwyr ar gyfer Trigolion Gogledd Cymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ei hymateb i sylwadau'r deisebydd, yn enwedig y diffyg gwasanaethau addas i gymudwyr.
3.6 P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.7 P-04-620 Ailgyflwyno’r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar Ffordd Osgoi Aberteifi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am linell amser ar welliannau i'r A40.
4.2 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.
4.3 P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gall y mater fynd yn ei flaen ymhellach o ganlyniad i delerau ymateb y Gweinidog.
4.4 P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau ar adroddiad yr Athro Donaldson neu ar ddatganiad y Gweinidog.
4.5 P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adolygiad dan arweiniad Dr Margaret Flynn, gan gynnwys a yw Gweinidogion Cymru wedi derbyn unrhyw ganfyddiadau interim, fel yr awgrymwyd yn wreiddiol.
4.6 P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebydd.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Blaenraglen Waith
Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.